Proverbs 27

1Paid brolio am beth wnei di yfory,
ti ddim yn gwybod beth all ddigwydd mewn diwrnod.
2Gad i rywun arall dy ganmol di,
paid ti â brolio dy hun.
3Mae carreg yn drom, ac mae pwysau i dywod,
ond mae ffŵl sy'n pryfocio yn waeth na'r ddau.
4Mae gwylltio yn greulon a cholli tymer yn llethu,
ond mae cenfigen yn waeth na'r ddau.
5Mae cerydd gonest
yn well na peidio dangos cariad.
6Mae'n well cael eich brifo gan ffrind,
na chael eich cusanu'n ddi-baid gan rywun sy'n eich casáu.
7Mae rhywun sydd wedi cael digon i'w fwyta yn gwrthod mêl,
ond i'r sawl sy'n llwgu, mae'r peth mwyaf chwerw yn blasu'n felys.
8Mae rhywun sydd wedi gadael ei gartre
fel aderyn wedi gadael ei nyth.
9Fel mae olew a phersawr yn gwneud rhywun yn hapus,
mae cyngor ffrind yn gwneud bywyd yn felys.
10Paid troi cefn ar ffrind neu un o ffrindiau'r teulu,
a fydd dim rhaid i ti redeg i dŷ perthynas pan fyddi mewn trafferthion.
Mae ffrind sy'n agos yn well na pherthynas pell.
11Bydd ddoeth, fy mab, a gwna fi'n hapus,
er mwyn i mi fedru ateb y rhai sy'n gwneud sbort ar fy mhen.
12Mae'r person call yn gweld perygl ac yn ei osgoi;
ond y gwirion yn bwrw yn ei flaen ac yn gorfod talu'r pris.
13Cymer ei wisg, gan ei fod wedi gwarantu benthyciad rhywun arall;
cadw hi'n warant os gwnaeth hynny dros wraig anfoesol.
14Mae gweiddi'n uchel wrth gyfarch ffrind yn gynnar yn y bore
yn gallu bod yn fwy o felltith na dim arall.
15Mae gwraig gecrus yr un fath â
diwrnod pan mae hi'n glawio'n ddi-stop;
16mae rhoi taw arni fel ceisio stopio'r gwynt rhag chwythu,
neu ddal olew yn y llaw.
17Fel haearn yn hogi haearn
mae un person yn hogi meddwl rhywun arall.
18Yr un sy'n gofalu am y goeden ffigys sy'n bwyta ei ffrwyth,
a bydd y gwas sy'n gofalu am ei feistr yn cael ei anrhydeddu.
19Fel adlewyrchiad o'r wyneb mewn dŵr,
mae'r bersonoliaeth yn adlewyrchu beth sy'n y galon.
20Dydy Annwn
27:20 Annwn Hebraeg,  Sheol, sef “y byd tanddaearol ble mae'r meirw yn mynd”
ac Abadon
27:20 Abadon sef, “lle dinistr”
byth yn cael digon,
a dydy'r llygad dynol byth yn fodlon chwaith.
21Tawddlestr i arian, a ffwrnais i aur,
a chanmoliaeth i brofi sut un ydy person.
22Gelli falu'r ffŵl fel ŷd gyda pestl mewn mortar
ond fydd ei ffolineb ddim yn ei adael.
23Edrych ar ôl dy ddefaid yn iawn,
a gofala am y geifr;
24achos dydy cyfoeth ddim yn para am byth,
a dydy coron ddim yn aros bob amser.
25Ar ôl cario'r gwair mae'r glaswellt yn tyfu eto,
ac ar ôl i gnwd y bryniau gael ei gasglu,
26bydd yr ŵyn yn rhoi dillad i ti
a'r bychod geifr yn talu am y tir.
27A bydd digon o laeth geifr
i ti fwydo dy deulu,
a chadw dy forynion.
Copyright information for CYM